Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 6 Mehefin 2019
Amser:
09.30 -
12.20
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5526
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mike Hedges AC (Cadeirydd) Andrew RT Davies AC Llyr Gruffydd AC Dai Lloyd AC Jenny Rathbone AC Joyce Watson AC |
Tystion: |
Yr Athro Lynda Warren, Prifysgol Aberystwyth Alan Terry, Blue Marine Foundation Mary Lewis, Cyfoeth Naturiol Cymru Rhian Jardine, Cyfoeth Naturiol Cymru Gill Bell, Marine Conservation Society Emily Williams, Cyswllt Amgylchedd Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Chloe Corbyn (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan John Griffiths AC.
2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Lynda Warren, Athro Emeritws, Prifysgol Aberystwyth; ac Alan Terry, Blue Marine Foundation.
3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Mary Lewis, Arweinydd Tîm Polisi a Chynllunio Morol ac Arfordirol, Cyfoeth Naturiol Cymru; a Rhian Jardine, Pennaeth Gwasanaeth Morol, Cyfoeth Naturiol Cymru.
3.2 Cytunodd Cyfoeth Naturiol Cymru i baratoi papur ar drafodaeth bwrdd rheoli Cyfoeth Naturiol Cymru ar yr amgylchedd morol.
4.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gill Bell, Cyswllt Amgylchedd Cymru; ac Emily Williams, Cyswllt Amgylchedd Cymru.
4.2 Cytunodd Emily Williams, Cyswllt Amgylchedd Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth am reoli pysgod cregyn gan gynnwys dyraniadau cwota sefydlog.
5.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.
6.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod heddiw ar gyfer eitem 7.
7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft, yn amodol ar un newid bach.